Skip to content

Cais newydd am drwydded safle niwclear wedi’i dderbyn

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear (ONR), y rheoleiddiwr diogelwch a diogeledd niwclear wedi cadarnhau bod Horizon Nuclear Power wedi gwneud cais am drwydded safle niwclear ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn Wylfa Newydd, Ynys Môn, Gogledd Cymru.

Nawr bydd yr ONR yn adolygu’r cais, gan gynnal asesiadau cadarn o alluogrwydd sefydliad yr ymgeisydd, ei drefniadau llywodraethu a’i gymhwysedd i fod yn ddeiliad trwydded safle niwclear. Hefyd byddwn ni’n asesu digonolrwydd ei gynlluniau ynghylch diogelwch technegol.

Meddai Mike Finnerty, Dirprwy Brif Arolygydd Niwclear a Chyfarwyddwr Rhaglen Adweithyddion Newydd yr ONR: " Dyma’r cais newydd cyntaf am drwydded safle niwclear ers 2011, a dros y tair blynedd diwethaf rydyn ni wedi ymgysylltu ag Horizon, yn darparu cyngor iddyn nhw ar y broses drwyddedu a’r gofynion cadarn a ddisgwylir gan drwyddedai safle niwclear."

DIWEDD

Bydd hyd asesiad yr ONR yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ansawdd ac amseroldeb cyflwyniadau Horizon.

Gellir gweld rhagor o fanylion ynghylch sut rydym yn trwyddedu cwmnïau sy’n dymuno adeiladu a gweithredu gorsafoedd ynni niwclear newydd yma: