Skip to content

Improvement Notice served on Magnox Ltd at Wylfa site

The Office for Nuclear Regulation has served an Improvement Notice on Magnox Ltd requiring improvements in its arrangements for managing asbestos at the Wylfa site on Anglesey.

The notice comes following an inspection of Magnox Ltd's arrangements for managing asbestos containing materials at the site.

Although Magnox Ltd has already instigated its own investigation into the root causes and committed to identify and address any underlying management issues, ONR has determined that an Improvement Notice is necessary to ensure Magnox Ltd takes timely action to ensure the required legal standards are met.

ONR is satisfied that the issue does not pose a risk of exposure to the wider public.

Dr Richard Savage, ONR's Chief Nuclear Inspector, said: “We expect the nuclear industry to meet the high standards of safety and security required by the law and will always take enforcement action where necessary. This includes management of risks to health and safety arising from asbestos containing materials.

“While we are content that this issue has no impact on nuclear safety, we do require improvements to ensure that any arrangements to manage the risk arising from the presence of asbestos are adequate and appropriate.”

Magnox Ltd must comply with the requirements of the Improvement Notice by 28 July 2017.


Hysbysiad Gwelliant wedi ei gyflwyno i Magnox Ltd ar safle Wylfa

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear wedi cyflwyno Hysbysiad Gwelliant i Magnox Ltd sy’n mynnu gwelliannau yn y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar safle Wylfa ar Ynys Môn.

Daw’r hysbysiad ar ôl arolwg o drefniadau Magnox Ltd ar gyfer rheoli deunyddiau sy’n cynnwys asbestos ar y safle.

Er bod Magnox wedi cychwyn ei ymchwiliad ei hun i’r rhesymau sylfaenol am hyn ac ymrwymo i ganfod unrhyw broblemau rheoli sy’n sail iddynt ac ymdrin â nhw, mae’r ONR wedi penderfynu bod angen Hysbysiad Gwelliant i sicrhau bod Magnox Ltd yn gweithredu yn brydlon i sicrhau bod y safonau cyfreithiol gofynnol yn cael eu bodloni.

Mae’r ONR yn fodlon nad yw’r mater yn creu risg y bydd y cyhoedd yn ehangach yn dod i gyffyrddiad â’r asbestos.

Dywedodd Dr Richard Savage, Prif Arolygydd Niwclear yr ONR: “Rydym yn disgwyl i’r diwydiant niwclear gyrraedd y safonau uchel o ran diogelwch sy’n ofynnol dan y gyfraith a byddwn bob amser yn cymryd camau i orfodi pan fydd angen hynny. Mae hyn yn cynnwys rheoli risgiau i iechyd a diogelwch sy’n deillio o ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos.

“Er ein bod yn fodlon na fydd y mater hwn yn cael unrhyw effaith ar ddiogelwch niwclear, mae arnom angen gweld gwelliannau i sicrhau bod unrhyw drefniadau i reoli’r risg sy’n deillio o bresenoldeb asbestos yn ddigonol ac addas.”

Rhaid i Magnox Ltd gydymffurfio â gofynion yr Hysbysiad Gwelliant erbyn 28 Gorffennaf, 2017.